Fferm Wynt Garn Fach

  1. Project Type: Onshore wind
  2. Country: Wales
  3. Location: Powys
Project Status:
  1. Planned
  2. Consented
  3. In Construction
  4. Operational

Mae Fferm Wynt Garn Fach yn gynnig am 85 MW, 17 tyrbin, pob un ag uchder blaen llafn o hyd at 149.9 metr.

Byddai’r safle’n gallu cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy ar gyfer 69,000 o gartrefi* a helpu Llywodraethau Cymru a’r DU i gyrraedd targedau hinsawdd.

*Ffactor cynhwysedd 35% – ffigwr ceidwadol yn seiliedig ar fesuriadau o’r mast ar y safle. Defnydd cyfartalog cartrefi o 3,772 kWh o’r defnydd o Ynni yn y DU (www.gov.uk)

Newyddion am y Prosiect

Mae’r cais cynllunio ar gyfer fferm wynt yn Garn Fach, i’r de o’r Drenewydd, bellach wedi’i ddilysu ac wedi symud ymlaen i ran ffurfiol nesaf y broses gynllunio.

Cyhoeddwyd y cynllun am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2020 ac ers hynny mae EDF Renewables UK wedi cwblhau asesiadau ac arolygon o’r safle, yn ogystal â thri ymarfer ymgynghori cyhoeddus, gan gynnwys ymgynghori ar yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol drafft yr hydref diwethaf (2021). Nawr, bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru – adran o Lywodraeth Cymru – yn cynnal ei ymgynghoriad eu hun ac yna archwiliad o’r cais cyn rhoi ei argymhellion i Weinidogion Cymru am benderfyniad terfynol. Arweinir rhan hon y broses gan arolygydd cynllunio annibynnol.

Gellir lawrlwytho’r holl ddogfennau cais (cliciwch ar y dolenni uchod). Fel arall, gallwch weld y dogfennau cynllunio ar borth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru gan ddefnyddio rhif cyfeirnod 3244499. Mae gan ymatebwyr hyd at 28 Mehefin 2022 i wneud eu sylwadau.

Cymuned

Rydym ni’n falch o’r buddsoddiad rydym ni’n ei wneud yn y cymunedau sy’n cynnal ein prosiectau ac rydym ni’n gweithio gyda chwmnïau lleol a rhanbarthol lle bynnag y bo modd. Ni wedi sefydlu grŵp cyswllt cymunedol Fferm Wynt Garn Fach sy’n cynnwys cynrychiolwyr lleol. Rydym ni’n aelod o Siambr Fasnach Canolbarth Cymru a Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru ac rydym ni eisoes wedi contractio gyda 10 cwmni o Gymru ar ddatblygu prosiectau. Dyma rai o’r buddion y gallai ein Fferm Wynt Garn Fach eu cynnig:

  • Cronfa budd cymunedol o hyd at £425,000 bob blwyddyn o weithredu (mynegai-gysylltiedig)
  • Effaith Gwerth Ychwanegol Gros o £31m i Bowys
  • 61 o swyddi ym Mhowys dros oes y fferm wynt
  • Hyd at 10% o berchnogaeth leol
  • Llwybrau troed a thraciau beicio newydd ar draws y safle, byrddau dehongli, a maes parcio i ymwelwyr i wneud y rhain yn hygyrch

Amserlen Fferm Wynt Garn Fach

  • Ionawr 2020 – Cyhoeddi cynnig Fferm Wynt Garn Fach, a chynnal diwrnodau gwybodaeth i’r cyhoedd
  • Gwanwyn 2020 – Cyfarwyddyd Cwmpasu yn cael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio
  • Haf 2020 – Gosod mast monitro gwynt ar y safle
  • Medi 2020 – Cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyswllt Cymunedol
  • Hydref a Tachwedd 2020 – Ail rownd yr ymgynghoriad cyhoeddus anstatudol, anffurfiol
  • Gorffennaf i Medi 2021 – Ymgynghoriad statudol cyn ymgeisio a chyhoeddi’r Datganiad Amgylcheddol drafft
  • Gwanwyn 2022 – Cyflwyno’r cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
  • Gwanwyn/Haf 2022 – Yr arolygydd cynllunio yn archwilio’r cais, argymhelliad i Weinidog Llywodraeth Cymru
  • 2023 – Penderfyniad gan Weinidog Llywodraeth Cymru
17

turbines

100 MW

generating capacity

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu â ni, mae croeso i chi e-bostio garn.fach@edf-re.uk.

Latest News

EDF power solutions announces proposed Nant y Maen Wind Farm to boost energy security and sustainability in Wales

EDF power solutions has announced its early stage plans to develop the Nant y Maen…

Latest News

EDF Renewables UK secures approval for 85MW Garn Fach Wind Farm

Welsh Ministers have [today] approved EDF Renewables UK’s application to build its 85MW Garn Fach…

Latest News

Powering Up Green Education: ‘Destination Renewables’ course rolls out across new Colleges

Destination Renewables, a bilingual, award winning education programme developed by lead partners: Pembrokeshire College, EDF…

Latest News

Onshore Wind Industry Taskforce – Statement from co-chair Matthieu Hue, Chief Executive, EDF Renewables UK

The UK Government has today (July 18) announced the formation of a new Onshore Wind…