Fferm Wynt Nant y Maen

  1. Project Type: Onshore wind
  2. Country: Wales
  3. Location: Ceredigion
Project Status:
  1. Planned
  2. Consented
  3. In Construction
  4. Operational

Nant y Maen is a proposed onshore wind farm near Tregaron

Mae gan EDF power solutions UK gynlluniau cynnar i ddatblygu fferm wynt ar y tir i’r dwyrain o Dregaron yng Ngheredigion.

Gallai Fferm Wynt Nant y Maen fod â chapasiti gosodedig o hyd at 150MW a chynhyrchu digon o drydan gwyrdd i bweru anghenion cyfatebol 146000 o gartrefi cyffredin yn y DU.

Read in English

Mae gan y fenter uchelgeisiol hon y potensial i gefnogi trawsnewidiad Cymru i ynni glân, hybu diogeledd ynni a darparu cyfleoedd economaidd lleol.

Rydym wedi dechrau astudiaethau dichonoldeb ecolegol cychwynnol ac astudiaethau dichonoldeb eraill, ac wedi cyflwyno cais i godi mastiau meteorolegol i gasglu data cyflymder gwynt i Gyngor Sir Ceredigion. Cynhelir digwyddiadau i rannu gwybodaeth a chael adborth cynnar gan bobl sy’n byw ac yn gweithio’n lleol yn yr hydref, a chyhoeddir y dyddiadau a’r manylion hynny’n fuan.

Os bydd y prosiect yn cael caniatâd cynllunio ac yn cael ei adeiladu, byddwn yn sefydlu Cronfa Budd Cymunedol fel rhan o’n hymrwymiad hirdymor i’r ardal leol. Bydd Cronfa Budd Cymunedol yn golygu bod arian o’r prosiect yn mynd tuag at gefnogi mentrau a gweithgareddau lleol cadarnhaol.

Diffinnir Nant y Maen fel Prosiect Seilwaith Sylweddol, a byddwn yn gwneud cais am Ganiatâd Seilwaith o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024. Bydd y cais cynllunio’n cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a’i archwilio gan arolygydd cynllunio annibynnol. Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio.

Map o’r safle

Amserlen

  • Mai 2026 – Cais Cwmpasu yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, ymgysylltu cynnar â rhanddeiliaid allweddol.
  • Dechrau hydref 2026 – Ymgynghoriad anffurfiol pedair wythnos a siarad â’r gymuned leol.
  • Drwy gydol 2027 – Astudiaethau ac asesiadau parhaus.
  • Haf 2027 – Ymgynghoriad statudol cyn-ymgeisio.
  • 2028 – Cyflwyno’r cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
  • 2028-2029 – Yr Arolygydd Cynllunio yn archwilio’r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidog Llywodraeth Cymru.
  • 2029 – Penderfyniad gan Weinidog Llywodraeth Cymru.

 

Hyd at 27 tyrbin

150MW o gapasiti cynhyrchu

Contact

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu â ni, e-bostiwch nant-y-maen@edf-power.com neu ffoniwch 01974 840041.