Batri Gogledd Abertawe
- Project Type: Battery storage
- Country: Wales
- Location: Swansea
Rydym yn cynnig system storio trydan batris (BESS) o hyd at 250MW (megawat) yn agos at is-orsaf bresennol ESO Gogledd Abertawe y Grid Cenedlaethol rhwng Felindre a Threforys.
Mae maint a dyluniad prosiect Batri Gogledd Abertawe wedi’u datblygu’n benodol i gael yr effaith leiaf bosibl ac i weddu i’r lleoliad, gydag ôl troed cymharol fach ac mewn ardal sydd wedi’i sgrinio’n dda.
Mae’r systemau batris hyn yn hanfodol i helpu Prydain i gyrraedd ei nodau diogeledd ynni a hinsawdd wrth i ni symud i ffwrdd o ddefnyddio trydan a gynhyrchir o danwydd ffosil i ddefnyddio pŵer o ffynonellau carbon isel ac adnewyddadwy yn unig.
Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio wedi cael ei gynnal rhwng 14 Mai ac 16 Mehefin 2025. Diolch i bawb a ymwelodd â’n digwyddiadau neu rododd adborth. Mae’r deunyddiau ymgynghoriad cyn ymgeisio i’w gweld o hyd yn isod.
Roedd Prydain yn arfer cael ei phweru bron yn gyfan gwbl gan lo – roedd yn cael ei losgi i wneud trydan neu ei gynhesu i gynhyrchu nwy glo neu nwy tref. Adeiladwyd gorsafoedd pŵer mawr yn agos at ein meysydd glo mawr, a threfi a dinasoedd mwy, ac mae’r grid trydan yn lledaenu fel gwe ledled y wlad.
Wrth i ni drosglwyddo i grid trydan di-garbon, mae angen BESS i ddatgloi potensial llawn ynni adnewyddadwy yn y DU trwy storio pŵer a gynhyrchir yn ystod cyfnodau o orgyflenwi, megis pan fydd yn wyntog, ac yna rhyddhau pŵer o’r fath yn ôl i’r rhwydwaith trydanol cenedlaethol pan fydd mwy o alw.
Trwy gydbwyso cyflenwad a galw, bydd y cyfleuster batris yn cynyddu gwytnwch y system drydan ac yn caniatáu i fwy o ynni adnewyddadwy ddod i’r grid, gan leihau allyriadau carbon a chefnogi twf economaidd cynaliadwy.
Mae Batri Gogledd Abertawe yn agos iawn at is-orsaf Grid Cenedlaethol Gogledd Abertawe ac rydym wedi sicrhau cysylltiad uniongyrchol â’r grid. Mae hyn yn golygu y bydd y system yn effeithlon iawn gydag ychydig iawn o golli ynni trwy’r ceblau oherwydd colli trosglwyddo.
Mae’r safle union wrth ymyl yr is-orsaf a’r fferm solar bresennol ac mae eisoes wedi’i sgrinio’n dda gan wrychoedd a bydd effaith weledol y cynnig cyn lleied â phosibl.
Gellir gweld delwedd o’r cynllun safle arfaethedig a’r ardal gyfagos isod:

C: Pam y lleoliad hwn?
Mae’r safle’n agos iawn at is-orsaf Gogledd Abertawe a dyna ble rydym wedi sicrhau cysylltiad, sy’n golygu y gall llwybr y cebl fod yn fyr iawn. Mae trydan bob amser yn gallu colli trawsyrru sy’n cynyddu dros bellter, felly po leiaf o gebl sydd ei angen, y gorau. Bydd hefyd yn lleihau’r effaith ar y gymuned leol heb unrhyw ofyniad i osod cebl ar hyd ffyrdd yn yr ardal.
Rydym yn frwd dros ddatblygu seilwaith sero net fel batris oherwydd rydym eisiau helpu Prydain i sicrhau cyflenwadau ynni a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r safle mewn ardal tir llwyd ac rydym wedi cynllunio ein cynnig yn benodol i gael cyn lleied o effaith â phosibl, gan ddewis y lleoliad oherwydd ei fod yn dir llwyd ac wedi’i sgrinio’n dda gan wrychoedd presennol sydd eisoes yn eu lle.
C: A fydd hwn yn nodwedd parhaol?
Rydym yn ceisio caniatâd i’r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer BESS am 400 mlynedd. Gan mai caniatâd ar gyfer amser cyfyngedig fyddai hwn, byddai’r tir yn dychwelyd i’w ddynodiad blaenorol ac ni fyddai’n cael ei ddosbarthu fel ei fod wedi’i ddatblygu’n flaenorol. Pe bai angen parhaus am y safle ar gyfer storio ynni ar ôl 40 mlynedd, byddai angen i ni gyflwyno cais cynllunio newydd.
C: Pam mae angen storio batris?
Mae’r DU wedi gosod targed i roi terfyn ar ei chyfraniad at newid hinsawdd a dod â’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050. I gyflawni hyn, rhaid inni roi terfyn ar ein dibyniaeth ar orsafoedd pŵer glo a nwy a’u disodli â ffynonellau pŵer carbon isel newydd. Mae storio batris yn hanfodol i wneud y newid hwn. Mae’n darparu:
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch aelod o dîm y prosiect ar 01792 002717 neu anfonwch e-bost at: swanseanorth@edf-re.uk.